English

Arwain drwy Ddewis – dod yn arweinydd disgybledig bwriadol

Mae'r ymgyrch yma nawr ar gau. Cymerwch gipolwg ar ein hymgyrch newydd - Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Drwy gydol 2018 byddwn yn eich herio i feddwl sut rydych yn ‘Arwain drwy Ddewis’. Pan fyddwch chi’n wynebu pwysau allanol cynyddol, mae perygl i ni deimlo ein bod yn colli rheolaeth fel arweinwyr. Serch hynny, mae gennych chi bob amser ddewis, ac rydym ni yma i’ch cefnogi i wneud y dewisiadau cywir fel arweinydd bob dydd.

Beth mae ‘Arwain drwy Ddewis’ yn ei olygu?

Mae arweinwyr llwyddiannus yn arwain drwy ddewis. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau’n fwriadol ac yn canolbwyntio’n ddisgybledig’
Francesca Gino, Ysgol Haf 2016

Mae Arwain drwy Ddewis yn golygu meddwl am sut rydych chi’n arwain bob dydd - a sut gall gweithredoedd beunyddiol amlygu eich arweinyddiaeth. Felly, rydym yn eich herio chi, fel arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, i bwyso a mesur pum nodwedd allweddol mewn ‘arweinwyr disgybledig bwriadol’:

  1. Mae ansawdd eich sylw chi yn pennu ansawdd meddwl pobl eraill
  2. Mae syniadau gwych ac arloesedd yn cuddio y tu ôl i dybiaeth sy’n eich cyfyngu, felly ceisiwch oresgyn tybiaethau sy’n cyfyngu ar ansawdd
  3. Mae ofn yn cyfyngu ar bopeth - defnyddiwch fynegiant emosiynol i’ch gwneud eich hun ac eraill yn fwy clyfar
  4. Byddwch yn fythol optimistaidd, ond yn giaidd o realistig ym mhob cyd-destun
  5. Ategwch bwysigrwydd pobl, gan greu amgylchedd ffisegol sy’n dweud ‘rydych chi’n bwysig’

Sut mae’r datganiadau hyn yn eich taro chi, eich tîm a’ch sefydliad? Beth yw eu heffaith ar y gwaith a wnewch chi a’r bobl rydych chi’n darparu gwasanaethau ar eu cyfer? Ac yn y pen draw, beth allwch chi ddewis ei wneud fel arweinydd i ymgorffori’r nodweddion hyn bob dydd?

Ceir ymdriniaeth ddyfnach o hyn a mwy o gyd-destun yn Jo Blogs: ‘Arwain drwy Ddewis’ – Sut wyf am droi i fyny eleni.

Gwnaethom osod yr her hon i arweinwyr yn yr Ysgol Aeaf ym mis Chwefror ac roedd y trafodaethau, y cwestiynau a’r camau gweithredu a godwyd yn ystod yr wythnos yn gyffrous iawn. Bydd Jo yn rhannu’r rhain â chi yn ei blog nesaf (tanysgrifiwch i’n Bwletin Cyfleoedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf).

Ein haddewid ‘Arwain drwy Ddewis’

Rydym hefyd yn gofyn i chi wneud addewid ‘Arwain drwy Ddewis’ (PDF 92KB). Rydym yn fwy tebygol o lynu wrth ein haddewidion os ydym yn eu rhannu ag eraill – felly, os ydych chi wedi cael eich ysgogi i fod yn arweinydd disgybledig bwriadol eleni, gwnewch yr addewid a’i bostio ar Twitter!

Dyma rai o arweinwyr yng Nghymru yn cyflwyno eu haddewidion:

Rydym ni hefyd yn hoffi bod ar flaen y gad ein hunain, felly dyma Jo yn gwneud ei haddewid hi. Bydd mwy o dîm Academi Wales yn ymddangos yma cyn bo hir!

Sut gallwn ni eich cefnogi chi i ‘Arwain drwy Ddewis’ eleni?

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gyfrannu a datblygu eich arweinyddiaeth i’r lefel nesaf. Dyma rai pethau sydd gennym ni ar y gweill ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda digwyddiadau, deunyddiau, dolenni a blogiau!

  • Ysgol Aeaf 2018 – byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r wythnos i adeiladu ar y thema a pharhau i gefnogi uwch arweinwyr drwy gydol y flwyddyn
  • Ysgol Haf 2018 – y thema yw ‘Arwain drwy Ddewis’ ac mae gennym sawl siaradwr cyffrous ar eich cyfer
  • Rhwydwaith Coetsio Cymru – yn ddiweddar, gwnaethom lansio cronfa ddata o goetswyr ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus. Felly, ewch i’n gwefan os hoffech chi archwilio unrhyw thema neu syniadau’n fwy manwl drwy gyfrwng sgwrs goetsio

Hefyd, mae gennym ein hystod lawn o gyrsiau, rhaglenni a dosbarthiadau meistr a gallwn gynnig cymorth dysgu a gwasanaeth hwyluso wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich sefydliad. Mae gennym hefyd ddigonedd o adnoddau dysgu sy’n rhoi sylw i amrediad eang o bynciau, rhestr o ‘awgrymiadau’ i’ch helpu bob dydd, a’n cyfres gynyddol o gyhoeddiadau ‘Hau Hadau’ – lle rydym ni’n gwneud y gwaith ymchwil fel y gallwch chithau ddarllen y ffeithiau allweddol am y themâu arweinyddiaeth diweddaraf.

Beth nesaf?

Byddwn yn lansio rhagor o gynlluniau, cyhoeddiadau a digwyddiadau newydd drwy gydol y flwyddyn, felly er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf beth am danysgrifio i’n Bwletin Cyfleoedd a’n dilyn ni ar Twitter @AcademiWales.