English

Panel cwsmeriaid

Ymunwch â Phanel Cwsmeriaid Academi Wales - helpwch i lunio ein dyfodol

Trosolwg

Mae'r panel yn grŵp o gwsmeriaid Academi Wales sydd wedi cytuno i rannu eu barn er mwyn ein helpu i lunio, datblygu a gwella ein gwasanaethau. Mae croeso i chi ymuno â ni os ydych yn gweithio mewn rôl arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru.

Y manteision i chi

Fel aelod o'r panel, byddwch yn cael eich gwahodd i rannu eich barn, cymryd rhan mewn ymarferion ar-lein a chynnig adborth ar syniadau ac adnoddau newydd. Bydd eich safbwyntiau yn ein helpu i lunio ein cynnwys dysgu a'n hadnoddau ar-lein yn y dyfodol, fel eu bod wir yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i arweinwyr a chydweithwyr ledled Cymru.

Byddwch yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ddatblygiad ein deunyddiau hyfforddi a'n darpariaeth, gan ein helpu i barhau i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel.

Sut mae'n gweithio

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol - dim ond parodrwydd i gyfrannu'n onest ac yn adeiladol.

O bryd i'w gilydd, byddwn yn anfon arolygon byr atoch neu'n eich gwahodd i rannu adborth ar syniadau a deunyddiau newydd. Mae cyfranogiad bob amser yn ddewisol, ac mae hyd yn oed cyfraniadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n gwaith datblygu.

Peidiwch â cholli'r cyfle cyffrous hwn i gyfrannu a dweud eich dweud!

Sut i ymuno

Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein fer hon:

Gadael y panel

Os ydych chi byth eisiau gadael y panel, mae hynny'n hollol iawn. Gallwch ofyn am gael eich tynnu oddi ar y panel drwy e-bostio AW.Panel@llyw.cymru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost at AW.Panel@llyw.cymru. Rydym bob amser yn hapus i helpu.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o fanylion gweler ein telerau ac amodau a'n hysbysiad preifatrwydd.