Croeso
Croeso i wefan Academi Wales - yma, fe welwch amrywiaeth o adnoddau dysgu, cyrsiau a digwyddiadau a rhwydweithiau sydd wedi’u hanelu at arweinwyr a rheolwyr.
Mae’r dudalen hon yn esbonio beth sydd ym mhob rhan o'r wefan ac yn esbonio sut mae mewngofnodi a gosod eich proffil. Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt yn cael eu hateb yma, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dechrau arni
Mae llawer o’n hadnoddau ar gael i'r cyhoedd; fodd bynnag, mae rhywfaint o gynnwys unigryw sydd ar gael i aelodau’n unig.
Gallwch ymaelodi os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.
Bydd hyn yn caniatáu i chi gael mynediad at yr ystod lawn o adnoddau, ymuno â rhwydweithiau a dechrau sgwrsio â phobl eraill ar y wefan.
Sut mae aelodaeth Academi Wales yn gweithio | Ddim yn aelod (Ar agor i bawb) | Aelod (Ar agor i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru) |
---|---|---|
Gweld yn Gymraeg neu’n Saesneg | ||
Ar gael ar gyfrifiadur, ar ffôn symudol neu ar ddyfais tabled | ||
Mynediad at adnoddau dysgu | ||
Darllen newyddion a blogiau | ||
Cofrestru ar gyfer y Bwletin Cyfleoedd | ||
Gwneud cais am gyrsiau a digwyddiadau | - | |
Mynediad at adnoddau dysgu unigryw | - | |
Gwneud sylwadau ar adnoddau dysgu a rhoi sgôr iddynt | - | |
Cadw eich hoff adnoddau dysgu mewn lle hwylus | - | |
Creu’ch proffil personol | - | |
Ymuno â rhwydwaith neu sefydlu un | - | |
Dechrau sgyrsiau ag aelodau eraill | - |
Eich proffil
Byddwch yn cael tudalen proffil yn awtomatig pan fyddwch yn aelod o’r wefan. Yno, gallwch weld yr adnoddau rydych wedi’u dynodi, rheoli eich dewisiadau o ran tanysgrifio i rwydweithiau a gweld unrhyw sgyrsiau ag aelodau eraill.
- Mynediad at eich proffil – gallwch gael mynediad at eich proffil unrhyw dro ar y brif faner ar frig y wefan
- Diweddaru eich proffil – pan fyddwch ar eich tudalen proffil, cliciwch ‘Golygu proffil’ (gan gynnwys newid eich cyfrinair) Dim ond aelodau unrhyw rwydweithiau rydych wedi ymuno â nhw fydd yn gallu gweld eich proffil.
Rhwydweithiau
- Ymuno â rhwydwaith – edrychwch drwy'r rhwydweithiau sydd ar gael a gofynnwch am gael ymuno
- Newid eich tanysgrifiad – rheolwch hyn o’r dudalen rhwydwaith neu o’ch proffil
- Creu rhwydwaith – os hoffech greu eich rhwydwaith eich hun, cysylltwch â ni
- Gadael rhwydwaith – ewch i dudalen y rhwydwaith a chlicio ar ‘Wedi ymuno’, a bydd hwn yn rhoi'r dewis i chi adael
Adnoddau dysgu
Gallwch chwilio am adnoddau penodol neu bori drwy ein categorïau i ddod o hyd i'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch. Mae'r adran adnoddau yn cynnwys fideos, cyflwyniadau, erthyglau ac amryw o ddolenni defnyddiol eraill.
Gallwch naill ai clicio ar adnodd a’i ddefnyddio, neu gallwch ddewis o nifer o gamau gweithredu.
- Nodi tudalen – cadw cofnod o adnoddau defnyddiol
- Adolygu – gadael sylw neu sgôr i’n helpu ni i ddeall pa fath o gynnwys rydych chi’n ei hoffi a beth hoffech chi weld mwy ohono
- Adrodd – rhoi gwybod i ni os oes problem
- Ychwanegu tag – ein helpu ni i gategoreiddio cynnwys er mwyn i eraill ddod o hyd iddo’n haws
- Rhannu – anfon at eich cysylltiadau neu bostio ar y cyfryngau cymdeithasol
Os hoffech ychwanegu eich adnoddau at ein gwefan, cysylltwch â ni.
Cyrsiau a digwyddiadau
Gallwch chwilio drwy ein prosbectws llawn o gyrsiau, rhaglenni a digwyddiadau, ac archebu.
Y ffordd orau o gael gwybod am yr hyfforddiant diweddaraf yw drwy danysgrifio i’n Bwletin.
Newyddion a safbwyntiau
Cael gwybod y diweddaraf yn y newyddion a’r blogiau. Os hoffech i’ch newyddion chi ymddangos ar y dudalen hon, cysylltwch â ni.
Amdanom ni
Rhagor o wybodaeth am Academi Wales a’n gwaith. Gallwch weld telerau ac amodau’r wefan a'r hyfforddiant yn y rhan hon hefyd.
Ac yn olaf...
Gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio'r wefan!
Rydym bob amser yn ceisio gwella, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu adborth, cysylltwch â ni.