English

Alumni Graddedigion GIG Cymru

Trosolwg

Bwriad Academi Wales yw rhoi cyfleoedd dysgu a datblygu parhaus i gyn hyfforddeion y GIG sy’n raddedigion gwahodd unigolion i ymuno â grwp Alumni Graddedigion i gefnogi a dilyn cynnydd gyrfa.

Mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi graddedigion am dros 60 mlynedd. Mae Academi Wales yn credu ei fod yn bwysig dal gafael ar dalent arwain gwerthfawr. Wrth gydnabod bod gan gyn hyfforddeion sy’n raddedigion gyfrifoldeb am ddatblygiad eu gyrfa eu hunain i swyddi uwch. Mae Academi Wales wedi ymrwymo i roi cyfleoedd datblygu ar gyfer cyn hyfforddeion y GIG sy’n raddedigion.

Manteision

Mae Alumni Graddedigion GIG Cymru yn anelu at roi’r cyfleoedd dysgu a datblygu parhaus canlynol i gefnogi aelodau Alumni:

  • Mynediad i Fwletin Cyfleoedd Academi Wales
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu i alluogi anghenion dysgu a chryfderau i gael eu nodi i lunio cynllun hunangyfeiriol y tu hwnt i rolau presenol.
  • Mynd i ddigwyddiadau dathlu Alumni

“Mae’r Alumni yn ddefnyddiol tu hwnt ac rwy’n ddiolchgar am yr wybodaeth am ddigwyddiadau penodol a allai gefnogi dysgu a datblygu.”
Adborth gan aelod Alumni

Y gynulleidfa darged

Cyn-hyfforddeion Rheoli Graddedigion GIG Cymru

Sut i wneud cais

Mae cywirdeb cronfa ddata’r Alumni yn allweddol ar gyfer cysylltu eto â chyn hyfforddeion ac mae’n dibynnu ar ymatebion. Tanysgrifio i’r bwletin cyfleoedd lle byddwch yn cael gwybodaeth bellach am y cyfleoedd datblygu cyffrous hyn.