English

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog

Cynulleidfa
Uwch Arweinwyr ac aelodau Bwrdd yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru neu yn y trydydd sector/gwirfoddol

Hyd
Dim ond diwrnod o’ch amser (wyneb yn wyneb)

Lleoliad
Yr union leoliad i’w gadarnhau – ond yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau

Dyddiad
15 Mehefin 2023

Cost
Dim ceiniog

Gweithdy diwrnod i Uwch Arweinwyr/Aelodau Bwrdd

Trefnir gan: Academi Wales, Is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a’n partner ni, Cadenza.

Trosolwg

Mae gyda ni uchelgais mawr ar gyfer ein hiaith ni, a chynlluniau lu i droi’r uchelgais yn realiti. Mae’n rhaglen ni, Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, yn un o’r cynlluniau hyn. Mae’n gyfle i ddod at ein gilydd am ddiwrnod o weithdy gydag uwch arweinwyr eraill i drafod sut mae datblygu diwylliant dwyieithog ein sefydliadau. Croeso i bawb, waeth faint o Gymraeg maen nhw’n ei medru. Y cwbl sydd ei eisiau yw chwilfrydedd a pharodrwydd i sgwrsio. Canlyniad delfrydol y rhaglen fyddai datblygu’r arweinwyr sy’n mynychu i fod yn bencampwyr diwylliant i’r Gymraeg ffynnu ynddo. Awydd cael gwybod rhagor am ein huchelgais i’r Gymraeg? Piciwch draw i: Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.

A chithau’n uwch arweinydd, byddwch chi’n cymryd rhan yn y gweithdy diwrnod. Dyma ran gyntaf rhaglen datblygu diwylliannol ehangach i’ch sefydliad. O’ch rhan chi, dim ond y gweithdy diwrnod y bydd eisiau i chi gymryd rhan ynddo. Wedi hyn, byddwch chi’n enwebu dau uwch arweinydd yn eich sefydliad a fydd yn ymuno â ni ym mhum sesiwn ddilynol y rhaglen rhwng Medi 2023 a Chwefror 2024. Byddan nhw’n mynychu cymysgedd o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhai ar-lein hefyd.

Ein taith iaith

Mae pawb ar daith iaith, yn sefydliadau ac yn unigolion. Ac mae pawb ar wahanol gam o’r daith ar wahanol adegau. I rai, megis dechrau byddwn ni, a bydd eraill wedi teithio ymhellach. Bydd y gweithdy’n lle i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, ble bynnag ry’n ni arni ar y daith.

Wedi’r gweithdy, byddwn ni am i chi ofyn i’r ddau rydych chi wedi eu henwebu weithio i ddod o hyd i waelodlin ddiwylliannol am y Gymraeg yn niwylliant eich sefydliad. Bydd hyn yn gymorth i ni deilwra sesiynau a thrafodaethau, fel bo pawb yn cael rhywbeth gwerthfawr i fynd nôl i’w sefydliad. Bydd y waelodlin yn gymorth i ni gael syniad clir o beth yw’r man cychwyn ar gyfer gwaith i ddatblygu’r diwylliant arweinyddiaeth o gwmpas y Gymraeg.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ffyrdd o weithredu ar y cyd er mwyn gwella ansawdd bywyd i bawb.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Byddwch chi’n dysgu am y datblygiadau diweddaraf am y Gymraeg gan arbenigwyr. Ond mae’r rhaglen yn gwneud mwy o dipyn na dim ond cyflwyno gwybodaeth. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ein syniadau am y Gymraeg, ein profiadau ohoni, a’n gobeithion ar ei chyfer, drwy lens arweinyddiaeth. Wrth i ni drafod, byddwn ni’n sicrhau bod buddion a heriau posibl yn dod yn fyw wrth i ni ddatblygu’r diwylliant arweinyddiaeth o gwmpas y Gymraeg yn ein sefydliadau.

Bydd y rhaglen yn cyflwyno sefyllfaoedd dwyieithog go iawn gan ganolbwyntio ar:

  • Sut mae modd i ni ddefnyddio a/neu ddatblygu sut ry’n ni’n ymddwyn fel arweinwyr i ‘osod y tôn’ ac i ddangos ein hymrwymiad i ddiwylliant positif o gwmpas y Gymraeg yn ein sefydliadau.
  • Bydd yn edrych ar ba priodweddau personol fydd yn ein helpu ni fel arweinwyr i gyfathrebu’n effeithiol mewn amgylchedd Cymraeg-Saesneg, pa lefel bynnag o Gymraeg sydd gyda ni.
  • Gyda’n gilydd, byddwn ni’n edrych ar syniadau ymarferol i’n helpu ni i ‘wneud’ Cymraeg 2050 yn ein sefydliadau ac i fod yn rhan o’n huchelgais cenedlaethol i gynyddu’r defnydd o’n hiaith ni.

Beth sy ddim yn rhan ohono fe?

  • Fydd y rhaglen ddim yn dehongli neu’n darparu hyfforddiant ar unrhyw agwedd ar gydymffurfedd â rheoliadau neu gyfraith yn ymwneud â’r Gymraeg.
  • Fydd y rhaglen ddim yn canolbwyntio ar ddysgu’r Gymraeg mewn sefydliadau.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Cynulleidfa darged

Os ydych chi’n gweithio yn y trydydd sector/gwirfoddol neu’r sector cyhoeddus, ac yn gweithio ar lefel Bwrdd neu’n uwch arweinydd, yn newydd yn eich swydd neu ynddi ers tro, newydd gyrraedd Cymru neu wedi bod yma o’r crud, dyma’r rhaglen i chi.

Cost

Dim ceiniog.

Sut i wneud cais

Prin yw’r llefydd ar y cohort yma o’r rhaglen. Mae’n debygol y bydd llawer o ofyn am lefydd, felly bydd angen i chi wneud cais.

Dyddiad cau: 1 Mehefin 2023.

Dyddiadau'r rhaglen

15 Mehefin 2023, Gweithdy i Uwch Arweinwyr

Wyneb yn wyneb, diwrnod cyfan.

Wedi’r gweithdy, byddwn ni’n gofyn i chi enwebu dau berson i fynychu’r sesiynau canlynol ac i weithio er mwyn asesu gwaelodlin ddiwylliannol eich sefydliad o ran y Gymraeg. Bydd hyn yn helpu i ni deilwra’r sesiynau a’n trafodaethau fel bo pawb yn mynd â rhywbeth gwerthfawr yn ôl i’w sefydliadau. Bydd yr waelodlin yn gymorth i ni gael syniad clir o beth yw’r man cychwyn ar gyfer y gwaith sydd i’w wneud yn eich sefydliadau i ddatblygu’r diwylliant arweinyddiaeth o gwmpas y Gymraeg.  

Sesiynau pellach i’r ddau uwch arweinydd y byddwch yn eu henwebu:

14 Medi 2023, Sesiwn 1: Ble ry’n ni arni o ran dwyieithrwydd a’r Gymraeg?

Wyneb yn wyneb, drwy’r dydd.

  • Dod i adnabod ein gilydd
  • Rhannu lle mae pawb arni: trafodaeth am waelodlin yr asesiad diwylliannol byddwch wedi’i wneud cyn y sesiwn gyntaf yma
  • Chi a’r Gymraeg, eich sefydliad chi a’r Gymraeg: profiadau’r gorffennol a dyheadau ar gyfer ein hiaith ni
  • Cip ar ragfarn ac empathi isymwybodol o ran dwyieithrwydd Saesneg<>Cymraeg
  • Y math o iaith ry’n ni’n ei defnyddio wrth siarad ac ysgrifennu am ddwyieithrwydd

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

26 Hydref 2023, Sesiwn 2: Adeiladu’r naratif a’r tîm

Ar-lein, 9yb-12yp gyda seibiannau.

  • Rhoi’r dysgu ar waith
  • Adeiladu’r naratif: diagnosis o’r hyn y mae angen i ni ei newid
  • Dwy iaith ar waith (ein stori ni)
  • Beth arall sydd angen i ni wybod mwy amdano?
  • Datblygu llysgenhadon yn eich sefydliad: neges i’n noddwyr

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

7 Rhagfyr 2023, Sesiwn 3: Sut fydd hi’n teimlo pan fyddwn ni’n cyrraedd 2050?

Wyneb yn wyneb, drwy’r dydd.

  • Clymu pethe at ei gilydd: dwyieithrwydd, ein gwerthoedd a’n gweledigaeth sefydliadol ein hunain
  • Dwy iaith ar waith (ein stori ni)
  • Sut gall technoleg ein helpu ni i newid diwylliant?
  • Adeiladu ar gryfderau/mynd i’r afael â’r heriau a godwyd yn y sesiwn ddiwethaf

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

18 Ionawr 2024, Sesiwn 4: Cynyddu’n cefnogwyr

Ar-lein, 9yb-12yp gyda seibiant.

  • A sôn am ddwyieithrwydd–sut mae’n mynd?
  • Offer defnyddiol ac ambell i bwt o gyngor ar gyfer dwyieithrwydd bob dydd
  • Profiadau unigolion a sefydliadau o ddwyieithrwydd.

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

29 Chwefror 2024, Sesiwn 5: Cynnal y momentwm

Wyneb yn wyneb, drwy’r dydd.

  • Heddiw byddwn ni’n gwahodd ein noddwyr i ymuno â ni i drafod rhannu’r daith hyd yma ac i drafod beth mae modd ei wneud gyda’n gilydd (mewn cymuned ymarfer) ar gyfer dwyieithrwydd at y dyfodol.