English

Rhaglen arweinyddiaeth Sero Net

Cynulleidfa
Ar gael i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru – Rhai sy’n Agos at uwch arweinyddiaeth, Uwch arweinwyr, Llunwyr polisi, ac arweinwyr y sector cyhoeddus

Hyd
Cwrs Llythrennedd Carbon (ar-lein 2 x 3-awr sesiynau neu wyneb yn wyneb 1 diwrnod)
Cwrs Nabod Natur (ar-lein 2 x 3-awr sesiynau neu wyneb yn wyneb 1 diwrnod)

Lleoliad
Mae cwrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gael

Cost
Ni chodir tâl i gymryd rhan

Trosolwg

Mae Academi Wales yn cynnig rhaglen arweinyddiaeth gynhwysfawr i arfogi arweinwyr ledled Cymru â'r sgiliau, yr wybodaeth, a'r galluoedd y bydd arnyn nhw eu hangen i sbarduno cynnydd tuag at Sero Net. Cynhelir y rhaglen mewn partneriaeth â Cynnal Cymru Sustain Wales (CCSW), ac mae hi wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd mewn swyddi arwain ac sydd â chyfrifoldebau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar weithredu unigol ac ar gydweithredu er mwyn sicrhau dyfodol gwyrddach.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyrsiau Llythrennedd Carbon a Nabod Natur  ar gyfer darpar arweinwyr. Ein nod yw sicrhau bod arweinwyr yn deall heriau'r trawsnewidiad i sero net yn ogystal â’u paratoi i arwain newid o fewn eu sefydliadau a'u cymunedau.

Bydd Cam 2 yn defnyddio’r adborth a’r wybodaeth a gafwyd yn y cam cyntaf fel sylfaen i greu cwricwlwm dyfnach sy'n canolbwyntio ar weithredu, gan arwain at gyfleoedd i gyfoedion ddysgu gan ei gilydd a gweithdai sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer uwch arweinwyr.

Ydych chi’n barod i arwain y newid?

Gwnewch gais heddiw ac ymunwch â’r ymgyrch dros ddyfodol gwyrddach i Gymru.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Drwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, byddwch yn:

  • Datblygu gwybodaeth hanfodol: magu dealltwriaeth ddofn o strategaethau lleol a chenedlaethol i leihau carbon yn ogystal ag atebion sy'n seiliedig ar natur – sy'n allweddol i uchelgeisiau Sero Net Cymru.
  • Gwella galluoedd arwain: meithrin sgiliau arwain sydd wedi'u teilwra ar gyfer yr heriau cymhleth a wynebir wrth ysgogi mentrau cynaliadwyedd yn y sector cyhoeddus.
  • Dysgu cydweithredol: ymgysylltu â chyfoedion o wahanol sectorau i rannu gwybodaeth a dulliau ar gyfer cyflawni Sero Net, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'n perthynas ni â systemau naturiol.
  • Datblygu sgiliau sy'n canolbwyntio ar weithredu: defnyddio’r hyn a ddysgwyd gennych yn uniongyrchol yn eich rôl fel arweinydd trwy gymryd rhan mewn gweithdai cynllunio gweithredu ymarferol.
  • Cael dylanwad ar ddyfodol Cymru: cyfrannu at yr ymdrechion ehangach i wneud Cymru'n arweinydd byd-eang mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a Sero Net.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer arweinwyr sector cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am fentrau Sero Net neu sydd â’r gallu i ddylanwadu arnynt. Rydym yn annog y grwpiau canlynol i ymgeisio:

  • Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)
  • Uwch arweinyddiaeth - arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr
  • Gwneuthurwyr polisi ac arweinwyr y sector cyhoeddus - y rhai sy'n dylanwadu neu'n gwneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd ag ymrwymiadau Sero Net Cymru.

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais

Gwybodaeth

Bydd angen i chi gwblhau dau gwrs er mwyn dechrau ar eich taith tuag at gael ardystiad: Llythrennedd Carbon yn y Gweithle (Cymru) a Nabod Natur Eco-lythrennedd. Rhaid i chi gwblhau'r ddau gwrs er mwyn cael eich achrediad.

Rhagor o wybodaeth

  • Bydd angen i chi gwblhau dau gwrs er mwyn dechrau ar eich taith tuag at gael ardystiad:
  • Rhaid i chi gwblhau'r ddau gwrs er mwyn cael eich achrediad. Cewch wybod beth yw dyddiadau'r cwrs yn ystod y broses ymgeisio, a gallwch ddewis cyfuniad o sesiynau ar-lein a rhai wyneb yn wyneb. Cyntaf i’r felin yw hi o ran archebu lle, felly sicrhewch eich bod yn cadw lle yn fuan ar y sesiynau sydd orau i chi.
  • Hyblygrwydd wrth ddewis cwrs: Gallwch ddewis unrhyw gyfuniad o sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb ar gyfer y ddau gwrs. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r un fformat ar gyfer y ddau gwrs.
  • Ymrwymiad: Trwy gofrestru ar gyfer y rhaglen hon, disgwylir i chi ymgysylltu'n llawn ym mhob agwedd ar y cwrs, sy'n cynnwys y dysgu ar-lein, y gweithdai rhyngweithiol, a’r trafodaethau gyda chyfoedion. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i fod yn ymarferol ac yn effeithiol, a bydd angen i chi fod yn ymroddedig a meddylgar er mwyn ei chwblhau.
  • Gwaith Cartref: Fel rhan o'ch taith ddysgu, bydd tua 4-5 awr o waith cartref. Mae hyn yn cynnwys cwblhau Ffurflen Dystiolaeth y Prosiect Llythrennedd Carbon a gwneud addewid personol i ddangos eich ymrwymiad i gynaliadwyedd ac i wella bioamrywiaeth. Mae'r tasgau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu a'i ddefnyddio wrth eich gwaith fel arweinydd, gan sicrhau bod modd gweithredu’r wybodaeth a’i hintegreiddio i’r gweithle.
    Rydym yn deall bod amser yn werthfawr, ac mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i fod yn hyblyg ac yn ystyrlon. Bydd yr aseiniadau wedi'u dylunio i roi budd ymarferol i chi a'ch sefydliad yn y byd go iawn, gan eich galluogi i gael effaith amlwg ar y newid tuag at gynaliadwyedd.
    Mae ymroi i holl gwmpas y rhaglen yn hanfodol er mwyn cyflawni Achrediad Llythrennedd Carbon y Prosiect Llythrennedd Carbon ac Ardystiad Eco-Lythrennedd Nabod Natur Cynnal Cymru ac er mwyn sbarduno newid ystyrlon o fewn eich sefydliad.
  • Lleoliadau: Mae dewisiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gael i sicrhau hygyrchedd.

Adnoddau allanol

Yn ogystal â'r rhaglen graidd, bydd gennych fynediad at ystod o adnoddau allanol i'ch helpu i ddyfnhau eich dealltwriaeth o Sero Net ac arferion cynaliadwyedd:

  • Prosiect llythrennedd carbon: amrywiaeth o adnoddau i gefnogi ymdrechion unigolion a sefydliadau i leihau carbon.
  • Nabod Natur: offer a gwybodaeth am sut y gall datrysiadau sy'n seiliedig ar natur gefnogi nodau Sero Net.
  • Gweithredu ar Hinsawdd Cymru: menter dan arweiniad y llywodraeth sy’n amlinellu uchelgeisiau a strategaeth Cymru ar gyfer cyrraedd Sero Net.
  • Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU: adnoddau ar gynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig.
  • Offer cynaliadwyedd i arweinwyr: llwyfannau ar-lein a chyhoeddiadau i’ch helpu i integreiddio cynaliadwyedd yn eich prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau.