English

Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru

Cynulleidfa
Cynghorwyr yng Nghymru

Dyddiadau
Rhaglen 1: Medi i Dachwedd 2023 (Gogledd Cymru, penwythnosau)
Rhaglen 2: Ionawr i Mawrth 2024 (De Cymru, yn ystod yr wythnos)

Lleoliad
Cymysgedd o ddigwyddiadau preswyl a rhithwir

Hyd
Tri modiwl deuddydd dros gyfnod o dri mis

Trosolwg

Mae arweinwyr gwleidyddol mewn llywodraeth leol yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen oherwydd effaith barhaus pandemig Covid-19, llymder, costau byw a diwygio llywodraeth leol. Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru yn gyfle i arweinwyr, a’r rhai sydd mewn swyddi arwain, archwilio’r meddylfryd diweddaraf mewn arweinyddiaeth wleidyddol, a rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymateb i’r heriau hyn.

Cyflwynir y rhaglen drwy bartneriaeth Academi Wales, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae Academi Wales yn gweithio gyda’r Institute of Leadership and Management (ILM) i gydnabod rhaglenni.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Mae'r rhaglen yn darparu amgylchedd lle gall cynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol gwrdd â chynghorwyr profiadol o gynghorau a phleidiau eraill i drafod materion cyffredin. Mae’r cyfuniad o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arweinyddiaeth ac o brofiad eu cyfoedion yn rhoi hyder i gyfranogwyr y rhaglen yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o gyd-weithwyr y gellir ymddiried ynddynt.

Mae’r rhaglen yn anffurfiol ac yn rhyngweithiol iawn, sy’n cynnig y cyfle i gael amgylchedd dysgu deniadol sy’n ysgogi’r meddwl. Mae pob rhaglen wedi’i chyfyngu i 25 o gynghorwyr gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.

“Dyma’r hyfforddiant gorau i aelodau rwyf wedi ei gael.”

“Roedd yr enghreifftiau o arfer da yn arbennig o ddefnyddiol, yn ogystal â’r cyfleoedd i glywed am wahanol brofiadau.”

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i bob aelod, mae’n rhagorol."

"Roedd y sesiwn gan arweinydd y cyngor yn amhrisiadwy, yn ymarferol ac yn ysbrydoledig!”

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Mae’r rhaglen yma ar agor i uwch gynghorwyr yng Nghymru, gan gynnwys arweinwyr, arweinwyr grwpiau gwleidyddol, aelodau gweithredol, llefarwyr y gwrthbleidiau a chadeiryddion craffu. Mae llawer o gynghorau o’r farn ei fod yn gyfle i hyrwyddo cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygu aelodau arweiniol y dyfodol.

Mae rhaglenni’n drawsbleidiol ac wedi’u cyfyngu i 25 aelod mewn unrhyw un sesiwn i sicrhau’r cyfranogiad mwyaf posibl.

Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen. Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig lleoedd ychwanegol; fodd bynnag, ni all mwy na phedwar aelod o bob cyngor gymryd rhan.

Sut mae’n gweithio

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru yn rhaglen ddatblygu fodiwlaidd sy’n cynnwys tri modiwl deuddydd dros gyfnod o dri mis.

Mae Modiwl 1 (preswyl) yn canolbwyntio ar arwain drwy berthnasoedd. Mae’r modiwl hwn yn galluogi cyfranogwyr i nodi eu harddulliau, eu cryfderau a’u gwendidau arwain personol ac yn archwilio sut y gall cynghorwyr ddatblygu, cynnal a defnyddio perthnasoedd (mewnol ac allanol) i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ar lefel wleidyddol, sefydliadol a chymunedol ehangach.

Mae Modiwl 2 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol) yn edrych ar arwain arloesedd a newid. Bydd y modiwl hwn yn datblygu gallu cynghorwyr i arwain a rheoli newidiadau cymhleth i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ac i sicrhau gwell canlyniadau i’w dinasyddion a’u cymunedau.

Mae Modiwl 3 (preswyl) yn archwilio arwain cymunedau a lleoedd. Canolbwyntir ar helpu cynghorwyr i gyfathrebu â’u cymunedau ac o fewn partneriaethau a rhoi arweiniad iddynt er mwyn sicrhau twf a ffyniant.

Rhwng modiwlau, bydd cynghorwyr yn cael eu hannog i barhau i sgwrsio, rhannu arfer datblygu a pharatoi ar gyfer y modiwl nesaf. Yn dilyn y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn cael cyfleoedd i barhau â thrafodaethau yn y setiau dysgu gweithredol a gafodd eu sefydlu ar y rhaglen.

Amserlen

Gogledd Cymru (penwythnosau)

Modiwl 1: 23 i 24 Medi 2023 (Preswyl)

Modiwl 2: 28 a 30 Hydref 2023 (Rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol)

Modiwl 3: 18 i 19 Tachwedd 2023 (Preswyl)

De Cymru (yn ystod yr wythnos)

Modiwl 1: 17 i 18 Ionawr 2024 (Preswyl)

Modiwl 2: 21 a 23 Chwefror 2024 (Rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol)

Modiwl 3: 13 i 14 March 2024 (Preswyl)

Cost

Darperir y Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru am ddim i gynghorau ac fe’i hariennir gan Academi Wales, Llywodraeth Cymru. Bydd Academi Wales yn darparu llety i gynghorwyr ar y noson rhwng deuddydd modiwlau 1 a 3. Bydd hyn yn cynnwys ystafell sengl gyda chinio, gwely a brecwast ac ni fydd yn cynnwys cost unrhyw alcohol.

Bydd angen i gynghorau ariannu costau teithio ac unrhyw lety ac arlwyo ychwanegol sydd eu hangen cyn neu ar ôl modiwlau 1 a 3. Rhaid i gynghorwyr sy’n dymuno gwneud y trefniadau ychwanegol hyn wneud hynny drwy eu Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a fydd yn cysylltu â’r lleoliad yn uniongyrchol. Rhaid adennill unrhyw gostau cysylltiedig drwy broses deithio a chynhaliaeth arferol eich cyngor.

Sut i wneud cais

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y cwestiynau cyffredin ar dudalen we’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru cyn i chi archebu eich lle.

Enwebiad

Bydd gan eich cyngor weithdrefn ar gyfer blaenoriaethu ac enwebu cynghorwyr i fynychu’r rhaglen. Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen. Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig lle wrth gefn (cyntaf ac ail). Fodd bynnag, ni all mwy na phedwar cynghorydd o’ch cyngor gymryd rhan.

  1. Trafodwch eich enwebiad gyda’ch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd.
  2. Pan fydd y Cyngor wedi penderfynu pwy fydd yn mynychu, dylai Penaethiaid
    Gwasanaethau Democrataidd anfon e-bost at AW.ArweinyddiaethByrddau@llyw.cymru
    gan roi enwau’r 2 gynghorydd enwebedig, ac enwau’r cyntaf a’r ail wrth gefn:
    1. enw
    2. cyfeiriad e-bost
    3. swydd / rôl o fewn y cyngor
    4. rhaglen a ffefrir (Gogledd / De / Y Naill neu’r Llall). Er y byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau’r lleoliad a ffefrir, ni allwn ei warantu. 
    5. math o enwebiad (lle gwarantedig / wrth gefn cyntaf / ail wrth gefn)
  3. Bydd Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yn derbyn cadarnhad o bwy sydd wedi cael cynnig lle. Yna, rhaid iddyn nhw roi gwybod i’r cynghorwyr perthnasol. 
  4. Gall cynghorwyr sydd â lle wedi’i gadarnhau archebu eu hunain ar y rhaglen drwy wefan Academi Wales.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 16 Mehefin 2023.

Archebu

Unwaith y byddwch wedi derbyn cadarnhad o'ch lle ar y rhaglen, llenwch y ffurflen gofrestru i lenwi eich archeb.

Cwestiynau cyffredin

Cysylltwch â’r cyfeiriad CLlLC.Gwelliant@wlga.gov.uk os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am gynnwys y rhaglen.

  • Bydd unrhyw gynghorydd yn cael dod ar yr amod bod ganddo ddigon o brofiad i gymryd rhan. Os ydych chi’n ymwneud yn ddigonol â phrosesau penderfynu, llunio polisïau neu adolygu yn eich cyngor, bydd modd ichi ddefnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu wedyn.

  • Nac oes! Mae’r rhaglen hon yn un ymarferol iawn. Rhaid rhoi’ch holl sylw i iddi a bod yn fodlon siarad a gwrando ymhlith y cynghorwyr eraill, ond mae’r hwyluswyr yn barod eu cymwynas a does dim ysgrifennu nac asesu ffurfiol.

  • Fydd. Er mwyn graddio o'r rhaglen a derbyn tystysgrif, bydd angen i chi fynychu pob un o'r tri modiwl. Sylwch fod y rhaglen wedi'i diweddaru a bellach yn cynnwys sesiwn ar-lein (modiwl rhif 2). Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu cyflwyno trwy Teams.

  • Mynd ati o ddifrif a bod yn sir beth yr hoffech chi ei gyflawni trwy gymryd rhan ynddi. Hoffech chi feithrin medrau arwain? Os felly, ble y byddwch chi’n eu defnyddio wedyn? Oes rhyw orchwyl yr hoffech chi gymorth i’w gyflawni? Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud dros y flwyddyn i ddod? Allwch chi fireinio eich bwriadau neu eu pwyso a’u mesur gyda chymorth y cynghorwyr eraill?

  • Mae pob rhaglen yn cynnwys tri modiwl – y cyntaf a'r olaf yn fodiwlau preswyl. I adlewyrchu'r newid i weithio o bell rydym bellach yn cynnig yr ail fodiwl ar-lein.

    Ar gyfer yr elfennau preswyl, er bod cyflwyno’r cwrs swyddogol yn dod i ben ar ddiwedd y dydd, mae llawer o’r trafod a’r dysgu pwysig yn parhau dros swper a gyda’r nos. Mae cyfranogwyr blaenorol wedi awgrymu bod y trafodaethau anffurfiol hyn a chymharu arfer ac ymagweddau'r un mor bwysig â'r sesiynau wedi'u hwyluso.

  • Dim llawer. Bydd eisiau tua awr o waith ysgafn i baratoi ar gyfer pob modiwl. Mae’n bwysig paratoi, fodd bynnag, er mwyn gwneud y gorau o’r amser gyda chynghorwyr eraill a hwyluswyr.

  • Mae hynny’n dibynnu ar faint sydd wedi cyflwyno cais. Cynigir dau le i bob cyngor yn gyntaf. Os nad yw pob un wedi manteisio ar hynny, bydd rhagor o leoedd ar gael. I gadw cyfrinachedd yn y setiau dysgu, tri i bedwar cynghorydd o bob cyngor fydd yr uchafswm, fodd bynnag. Dim ond hyn a hyn o aelodau cyngorau’r parciau cenedlaethol a’r gwasanaethau tân fydd yn cael dod os yw’r cyfanswm o cyngor eu hardal yn fwy na’r uchafswm.

  • Darperir y Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru am ddim i gynghorau ac fe’i hariennir gan Academi Wales, Llywodraeth Cymru. Bydd Academi Wales yn darparu llety i gynghorwyr ar y noson rhwng deuddydd modiwlau 1 a 3. Bydd hyn yn cynnwys ystafell sengl gyda chinio, gwely a brecwast ac ni fydd yn cynnwys cost unrhyw alcohol.

    Bydd angen i gynghorau ariannu costau teithio ac unrhyw lety ac arlwyo ychwanegol sydd eu hangen cyn neu ar ôl modiwlau 1 a 3. Rhaid i gynghorwyr sy’n dymuno gwneud y trefniadau ychwanegol hyn wneud hynny drwy eu Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a fydd yn cysylltu â’r lleoliad yn uniongyrchol. Rhaid adennill unrhyw gostau cysylltiedig drwy broses deithio a chynhaliaeth arferol eich cyngor.

  • Gan mai dim ond i gynghorwyr y bydd agweddau ffurfiol ac anffurfiol ar gael, fydd cymar ddim yn cael dod oni bai bod angen cynhaliwr arnoch chi.

    Sylwch ar gyfer y modiwl ar-lein, y cynrychiolydd enwebedig yw'r unig berson sydd wedi'i gymeradwyo i fod ar yr alwad fideo. Ni ddylai unrhyw un arall fod ar yr alwad.

  • Bydd gan eich cyngor weithdrefn ar gyfer blaenoriaethu ac enwebu cynghorwyr i fynychu’r rhaglen. Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen.

    Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig y warchodfa gyntaf a'r ail le wrth gefn. Fodd bynnag, ni all mwy na phedwar cynghorydd o'ch cyngor gymryd rhan.