English

Cynllun Rheoli i Raddedigion GIG Cymru

Gwybodaeth

Ymwelwch Addysg a Gwella Iechyd Cymru am ragor o wybodaeth am Cynllun Rheoli i Raddedigion GIG Cymru

Trosolwg

Bydd y cynllun Rheolaeth Gyffredinol am ddwy flynedd a’r cynllun tair blynedd ar Reoli Cyllid yn ymestyn ac yn datblygu rhai sy’n awyddus i fod yn uwch reolwyr i ddarparu gwelliannau o ansawdd uchel i wasanaethau cleifion. Gall yr unigolion ddisgwyl profiad dysgu anodd, uniongyrchol yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol ac yn dysgu’r sgiliau rheoli y mae arnynt eu hangen er mwyn gwella iechyd pawb yng Nghymru yn y pen draw.

Y gynulleidfa darged

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â thalent ac egni i wella profiad ein cleifion, i ddysgu sgiliau rheoli ymarferol ac i ddatblygu eu cryfderau arwain er mwyn cael enw da fel gweithwyr proffesiynol gweithgar sy’n creu canlyniadau mewn amgylchedd cymhleth a chyflym.

“Mae’n wych cael gyrfa rwy’n ei charu a gweld sut gall fy sgiliau a ‘ngwybodaeth wneud gwahaniaeth go iawn.”
Un o raddedigion GIG Cymru

Sut i wneud cais

  • Cynllun Rheolaeth Gyffredinol - mae ceisiadau ar gau
  • Cyfleoedd Hyfforddi ym maes Rheoli Cyllid i Raddedigion - mae ceisiadau ar gau