Ymddiriedaeth: sylfaen timau llwyddiannus
Cynulleidfa:
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Hyd:
Ar-lein 2 awr
Trosolwg
“Trust impacts us 24/7, 365 days a year. It underpins and affects the quality of every relationship, every communication, every work project, every business venture, every effort in which we are engaged…. It is the key leadership competency of the new global economy.”
Steven M R Covey, The Speed of Trust
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyfle i chi ystyried rhai safbwyntiau arbenigol am ymddiriedaeth, ystyried sut mae ymddiriedaeth neu ddiffyg ymddiriedaeth yn effeithio arnoch chi, eich tîm a’ch sefydliad, a chanfod ffyrdd ymarferol o sut i ddechrau dylanwadu er mwyn cael diwylliant ymddiriedaeth cryfach.
Y manteision i chi
Byddwch yn:
- dod i ddeall sut mae ymddiriedaeth yn effeithio ar ddeinameg eich tîm
- dod i ddeall mwy am sut mae ennill a cholli ymddiriedaeth
- cael syniadau ymarferol i ddylanwadu ar y lefelau ymddiriedaeth yn eich perthnasoedd gwaith
“Diddorol a rhyngweithiol. Cip da ar sut y mae ymddiriedaeth yn sail i berfformiad a chanlyniadau tîm”
“Roedd y wybodaeth yn ddefnyddiol iawn ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli bod angen i mi weithio ar fy hygrededd fi fy hun”
“Roedd hwn yn weithdy perthnasol iawn i mi yn y gwaith a gartref"
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth
Cynulleidfa darged
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.
Cost
Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.
Sut i wneud cais
Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
Twitter
Dilynwch ni ar Twitter @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru