English

Datblygu'r Bwrdd: Byrddau Iach

Cynulleidfa:

Byrddau yn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu yn ôl y galw

Hyd:

2 hanner diwrnod

Trosolwg

Mae sut rydym ni, fel Arweinwyr y sector cyhoeddus, yn cyfrannu at ein byrddau yn elfen hanfodol o ran meithrin y diwylliant priodol yn ystafell y bwrdd i gyflawni perfformiad uchel.

Mae’r gweithdy hon yn rhoi trosolwg o’r heriau sy’n wynebu byrddau, ymwybyddiaeth o fyrddau iach, sut maen nhw’n edrych a’r hyn maen nhw’n ei wneud, ynghyd â dealltwriaeth o’r camau i wella perfformiad y bwrdd.

Bydd cynrychiolwyr yn cael rhestr wirio o gamau ymarferol i wella perfformiad y bwrdd a chopi o’r ymchwil sylfaenol ar Sefydliadau sy’n Perfformio’n Uchel.

Manteision i chi

Bydd y gweithdy hwn yn galluogi’r cyfranogwyr i:

  • archwilio’r heriau unigryw i Fyrddau yn y sector cyhoeddus
  • bod yn fwy ymwybodol o’r hyn a wna Bwrdd iachus
  • nodi sut gallant gyfrannu mewn modd cadarnhaol at greu Bwrdd iachus
  • adnabod elfennau Bwrdd iachus a ffyrdd y gallant wella eu perfformiad a’u cyfraniad eu hunain, neu ychwanegu atynt.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiae

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Byrddau yn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Cost

Does dim tâl am y gweithdy hwn.

Sut i wneud cais

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Llywodraethiant ac Arweinyddiaeth Byrddau.