English

Rheoli Newid Yn Llwyddiannus

Cynulleidfa:

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Dyddiadau:

Yn cael ei ailgynllunio ar hyn o bryd i’w gyflwyno ar-lein.

Trosolwg

Rydym wedi cynllunio'r rhaglen lwyddiannus iawn hon i fynd i'r afael ag anghenion datblygu rheolwyr ac arweinwyr sy'n gyfrifol am gyflawni newid. Byddwch yn cael dealltwriaeth ymarferol o'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i reoli newid yn llwyddiannus. Rydym yn cyfuno hyn â safbwynt datblygu sefydliadol, sy'n canolbwyntio ar bobl, strwythurau, diwylliannau a systemau.

Nod y rhaglen hon yw meithrin arbenigedd wrth reoli newid. Bydd hyn yn cefnogi modelau newydd o ddarparu gwasanaethau wrth drawsnewid gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Cewch eich cyflwyno i'r meddylfryd diweddaraf ac i'r arferion rheoli newid diweddaraf. Byddwch yn dysgu am adnoddau a thechnolegau effeithiol iawn sy'n gwella effeithlonrwydd ac arloesedd. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ffyrdd mewnol ac allanol o gyflawni newid. Rydym yn defnyddio methodoleg effaith newydd sy'n sicrhau canlyniadau ymarferol i'ch deilliannau dysgu.

Byddwch yn cwblhau sawl asesiad diagnostig a fydd yn meithrin ymwybyddiaeth bersonol a datblygu cynllun gweithredu personol ar gyfer gwella.

Manteision i chi

Byddwch yn:

  • Datblygu pecyn o adnoddau personol a fydd yn eich helpu i wella'r ffordd rydych yn rheoli ac yn arwain newid mewn sefydliadau
  • Dysgu sut i reoli gwrthwynebiad i newid a sut i sicrhau bod eraill yn gweithredu i oresgyn y rhwystrau sy'n atal cynnydd
  • Cydweithio yn eich grwp dysgu er mwyn i chi allu defnyddio dealltwriaeth system gyfan o arfer llwyddiannus ym maes newid
  • Canolbwyntio ar broses newid benodol a datblygu cynllun personol er mwyn effeithio ar newid

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer datblygiad grwp.

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais

Yn cael ei ailgynllunio ar hyn o bryd i’w gyflwyno ar-lein.