English

Datblygu uwch goetsiwyr gweithredol - ILM 7

Cynulleidfa:

Uwch reolwyr ac arweinwyr profiadol sy'n cael eu cyflogi'n barhaol o fewn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiadau:

Tachwedd 2021 i Fehefin 2022

Lleoliad:

Ar-lein

Hyd:

8 sesiynau
9 mis

Mae ceisiadau nawr ar gau

Trosolwg

Mae’r rhaglen Tystysgrif Level 7 ILM mewn Coetsio a Mentora Gweithredol wedi'i hanelu at uwch arweinwyr a rheolwyr, gweithwyr Adnoddau Dynol a Gweithwyr Addysgu Proffesiynol.

Fe'i cynlluniwyd i roi'r wybodaeth, y sgiliau, yr ymddygiadau a'r hyder i chi fod yn goetsiwr a mentor effeithiol fel rhan o'ch rôl arwain. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i chynllunio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Masnachol Cyf Prifysgol De Cymru (dolen allanol), ar gyfer coetsiwyr sy'n gweithio ar lefel strategol weithredol/uwch.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Bydd eich deilliannau dysgu a gyflwynir drwy gwblhau eich asesiadau yn rhoi i chi:

  • Dealltwriaeth o egwyddorion ac arfer coetsio effeithiol ar lefel weithredol neu uwch
  • Byddwch yn ymarfer ac yn ymgymryd â choetsio neu fentora effeithiol ar lefel weithredol neu uwch
  • Myfyrio ar eich gallu i berfformio'n effeithiol fel coetsiwr neu fentor ar lefel weithredol neu uwch.

Bydd y rhaglen hon yn eich profi a'ch herio, gan roi sgiliau amhrisiadwy i chi y gellir eu defnyddio nid yn unig ar draws eich sefydliad ond ledled Cymru hefyd.

Manteision

Mae ystod eang o fanteision i gwblhau'r cymhwyster ILM 7 ac ymuno â'n rhwydwaith coetsio ar lefel weithredol.

Nod y cymhwyster yw rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth ofynnol i ddysgwyr i goetsio neu fentora cydweithwyr lefel uwch neu weithredol.

Bydd y rhaglen hon yn cynyddu ac yn ehangu adnoddau coetsiwyr lefel uwch sy'n barod i weithio ar draws ffiniau o fewn y gwasanaeth cyhoeddus ehangach, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a chydweithio.

Manteision i chi

  • Datblygu eich sgiliau, eich dealltwriaeth a'ch hyder fel coetsiwr gweithredol un-i-un o fewn eich sefydliad ac ar draws Cymru
  • Gwella eich datblygiad proffesiynol parhaus gyda chyfleoedd i chi gymryd rhan mewn hyfforddiant proffesiynol wedi'i ariannu'n llawn
  • Ymuno â grwp elitaidd o goetsiwyr gwasanaeth cyhoeddus lefel uwch
  • Deall dibenion strategol coetsio a mentora ar lefel weithredol neu uwch
  • Dadansoddi'r wybodaeth, y sgiliau, yr ymddygiadau a'r arferion sy'n angenrheidiol ar gyfer coetsio neu fentora effeithiol ar lefel weithredol neu uwch
  • Cynllunio, darparu ac adolygu eich coetsio neu fentora effeithiol eich hun ar lefel weithredol neu uwch
  • Dysgu pam mae dysgu myfyriol yn bwysig ar gyfer eich ymarfer proffesiynol eich hun
  • Gallu cynllunio eich gweithgareddau datblygiad proffesiynol yn y dyfodol fel coetsiwr neu fentor sy'n gweithredu ar lefel weithredol neu uwch

Manteision i'ch sefydliad

  • Hyfforddiant proffesiynol di-gost i goetsiwyr gweithredol mewnol
  • Mynediad i grwp o goetsiwyr lefel uwch a fydd yn gallu cyfnewid, cynnig ac elwa o goetsio lefel uwch traws-sector
  • Mwy o gydweithio â sefydliadau partner
  • Gweithredu coetsio mewn amgylcheddau gwaith cymhleth neu ar lefel weithredol neu uwch o fewn sefydliadau
  • Sicrhau bod gan y coetswyr a'r mentoriaid yr ydych yn gweithio gyda hwy y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt
  • Creu diwylliant coetsio neu fentora lle mae uwch reolwyr ac arweinwyr yn dangos eu hymrwymiad i gefnogi eu datblygiad a'u perfformiad eu hunain ac eraill

"Mae gallu cefnogi pobl drwy goetsio wedi rhoi boddhad mawr. Dwi wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y rhai dwi wedi eu coetsio sy'n dweud bod ein sesiynau wedi eu helpu i weithio tuag at eu nodau - a dyna wir arwydd o lwyddiant i'r cynllun."

"Byddwn i’n argymell sesiynau coetsio a mentora gweithredol ILM7 yn galonnog. Mae'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau lefel broffesiynol ynghyd ag ennill cymhwyster cydnabyddedig."

"Roedd y cwrs o fudd mawr i fi ac ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, mae gen i dechnegau, strategaethau a'r offer newydd sydd eu hangen ar gyfer swyddogion coetsio gweithredol.
Ers cymhwyso dwi wedi canfod bod swyddogion gweithredol yn grwp unigryw o bobl sy’n cael eu coetsio. Maen nhw’n aml iawn yn cyflwyno delwedd reoledig a allai guddio amheuon a gwendidau.
Bob tro dwi’n clywed swyddog gweithredol yn dweud, er enghraifft, ei fod wedi cael ‘moment o sylweddoliad’ rwy'n teimlo'n hyderus bod yr hyfforddiant a gefais drwy'r ILM wedi bod yn effeithiol. Mae hyn wedi cynyddu fy hyder yn fy ngallu i goetsio a mentora swyddogion gweithredol."

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa

Uwch reolwyr ac arweinwyr sy'n cael eu cyflogi'n barhaol mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru.

Mae'r rhaglen ddatblygu hon wedi'i hanelu at uwch arweinwyr a rheolwyr profiadol sydd â diddordeb mewn coetsio gweithredol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i chi fod yn goetsiwr a mentor lefel weithredol effeithiol fel rhan o'ch rôl arwain ac i'ch galluogi i ddarparu coetsio gweithredol ar gyfer haenau uchaf rolau arwain ar draws y gwasanaeth cyhoeddus.

Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau difreintiedig, lleiafrifol a heb gynrychiolaeth ddigonol lle mae gan sefydliadau sy'n cyflogi gyllid cyfyngedig, yn enwedig yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol.

Amserlen

Carfan 1

Sesiwn 1 - 24/11/2021 13:30-17:30
Sesiwn 2 - 15/12/2021 13:30-17:30
Sesiwn 3 - 12/01/2022 13:30-17:30
Aseiniad 1 - 31/01/2022
Sesiwn 4 - 02/02/2022 13:30-17:30
Sesiwn 5 - 16/02/2022 13:30-17:30
Sesiwn 6 - 16/03/2022 13:30-17:30
Sesiwn 7 - 06/04/2022 13:30-17:30
Sesiwn 8 - 11/05/2022 13:30-17:30
Arsylwadau - Mai 2022 (3 dyddiadau)
Aseiniad 2 - 30/05/2022
Aseiniad 3 - 13/06/2022

Carfan 2

Sesiwn 1 - 01/12/2021 09:00-13:00
Sesiwn 2 - 21/12/2021 13:30-17:30
Sesiwn 3 - 19/01/2022 13:30-17:30
Aseiniad 1 - 07/02/2022
Sesiwn 4 - 09/02/2022 13:30-17:30
Sesiwn 5 - 03/03/2022 13:30-17:30
Sesiwn 6 - 23/03/2022 13:30-17:30
Sesiwn 7 - 13/04/2022 13:30-17:30
Sesiwn 8 - 18/05/2022 13:30-17:30
Arsylwadau - Mai 2022 (3 dyddiadau)
Aseiniad 2 - 06/06/2022
Aseiniad 3 - 20/06/2022

Ymrwymiad

Bydd angen i chi gadarnhau y gallwch fynychu ac ymrwymo i'r holl ddyddiadau ar gyfer eich carfan.

Cost a bwrsariaethau

Mae Academi Wales yn cynnig bwrsariaeth lawn, felly ni fydd unrhyw gostau i ddirprwyon ar gyfer y rhaglen hon.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ofyn am awdurdod blaenorol gan eu noddwr/rheolwr llinell fel rhan o'r broses ymgeisio a'r ymrwymiad i goetsio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ni fydd Academi Wales yn talu cost unrhyw deithio a chynhaliaeth sy'n gysylltiedig â mynychu unrhyw elfennau wyneb yn wyneb o'r cwrs (os yn berthnasol) nac unrhyw ymarfer coetsio cysylltiedig.

Canslo

Os dyfernir lle i chi a’ch bod yn penderfynu tynnu'n ôl o'r rhaglen yn ddiweddarach, mae Academi Wales yn cadw'r hawl i godi tâl ar eich sefydliad am ffi safonol lawn y rhaglen sef £1,995 (0% TAW).

Sut i wneud cais

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Mwy o wybodaeth

Ymrwymiad i goetsio

Mae'n hanfodol bod y sefydliad sy'n eich noddi yn cytuno i'ch cefnogi drwy gydol y rhaglen a gwneud ymrwymiad tymor hwy i goetsio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cymhwyster hwn ar Lefel Meistr a bydd angen llawer iawn o ymrwymiad gennych chi a'ch sefydliad.

Unwaith y byddwch wedi cymhwyso'n llawn byddwch yn ymrwymo i ymuno â'r Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

Gofynion cymhwyster ILM

Mae ILM yn gofyn am y canlynol:

  1. Presenoldeb a chyfranogiad yn y 8 gweithdy
  2. Sesiwn ymsefydlu gorfodol 60 munud ILM a Go Learn
  3. Coetsio neu fentora o leiaf 2 ac uchafswm o 3 unigolyn gweithredol/lefel uwch am gyfanswm o 20 awr
  4. Cael eich arsylwi’n coetsio neu’n mentora o leiaf unwaith a chael adborth ysgrifenedig. Darperir hyn gan Wasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru
  5. Cymryd rhan mewn naill ai oruchwyliaeth unigol neu grwp am o leiaf 4 awr a chynhyrchu crynodeb ysgrifenedig o'r canlyniadau
  6. Cyflwyno a phasio'r 3 aseiniad

Technoleg

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n rhithwir gan ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru, Go Learn ac yn benodol Blackboard Collaborate Ultra. System bwrdd du yw hon ac fe'i defnyddir yn gyffredinol. Fodd bynnag, bydd angen i chi wirio gyda'ch adran TG nad oes waliau tân a fydd yn atal mynediad.

Mae'r system yn gweithio orau ar Google Chrome. Bydd hefyd yn gweithio ar y fersiwn ddiweddaraf o MS Edge neu Safari os ydych yn defnyddio Mac. Fodd bynnag, efallai y collir rhywfaint o ymarferoldeb gyda'r porwyr hyn.