Cynllun Rheoli i Raddedigion GIG Cymru
Gwybodaeth
Ymwelwch Addysg a Gwella Iechyd Cymru am ragor o wybodaeth am Cynllun Rheoli i Raddedigion GIG Cymru
Trosolwg
Bydd y cynllun Rheolaeth Gyffredinol am ddwy flynedd a’r cynllun tair blynedd ar Reoli Cyllid yn ymestyn ac yn datblygu rhai sy’n awyddus i fod yn uwch reolwyr i ddarparu gwelliannau o ansawdd uchel i wasanaethau cleifion. Gall yr unigolion ddisgwyl profiad dysgu anodd, uniongyrchol yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol ac yn dysgu’r sgiliau rheoli y mae arnynt eu hangen er mwyn gwella iechyd pawb yng Nghymru yn y pen draw.
Y gynulleidfa darged
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â thalent ac egni i wella profiad ein cleifion, i ddysgu sgiliau rheoli ymarferol ac i ddatblygu eu cryfderau arwain er mwyn cael enw da fel gweithwyr proffesiynol gweithgar sy’n creu canlyniadau mewn amgylchedd cymhleth a chyflym.
“Mae’n wych cael gyrfa rwy’n ei charu a gweld sut gall fy sgiliau a ‘ngwybodaeth wneud gwahaniaeth go iawn.”
Un o raddedigion GIG Cymru
Sut i wneud cais
- Cynllun Rheolaeth Gyffredinol - mae ceisiadau ar gau
- Cyfleoedd Hyfforddi ym maes Rheoli Cyllid i Raddedigion - mae ceisiadau ar gau
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
HEIW.GraduateProgramme@wales.nhs.uk
- Twitter
Dilynwch ni ar Twitter @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru