English

Datblygu'r Bwrdd: Gweithdy Gallu Perfformiad Uchel

Cynulleidfa:

Byrddau neu timau uwch yng nghwasanaethau cyhoeddus neu sefydliadau sector trydydd/gwirfoddol yng Nghymru

Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu yn ôl y galw

Hyd:

1 diwrnod

Trosolwg

Bydd y gweithdy hon sy’n cael ei hwyluso yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth gwaith - adnabod symudiadau mewn perfformiad dros gyfnod; beth sydd wedi gweithio’n dda, beth nad yw wedi gweithio a pham.

Yna bydd y gweithdy yn symud i ystyried momentwm i’r dyfodol gan ddefnyddio’r Model Gallu Perfformiad Uchel a ddatblygwyd gan Academi Cymru i asesu perfformiad presennol yn erbyn tri pharth allweddol perfformiad uchel:

  • Arwain – Gosod cyfeiriad, tanio angerdd, cyflymdra a’r gallu i yrru pethau yn eu blaen a datblygu pobl;
  • Strategaeth – Gosod strategaeth a chanolbwyntio ar ddeilliannau, gan ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediad ar sail y cwsmer sy’n gyrru dewisiadau a phenderfyniadau, adeiladu cydweithredu a phwrpas cyfunol;
  • Cyflawni – Rheoli perfformiad a chael gwerth am arian, datblygu rolau clir a cyfrifoldebau, modelau cyflawni, cynllunio, cyllido ac adnabod blaenoriaethau, arloesi a gwella cyflwyno a chyflawni.

Manteision i chi

Bydd y gweithdy hwn yn galluogi cyfranogwyr i:

  • adnabod meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y sefydliad
  • creu cynlluniau gweithredu er mwyn diweddaru cynlluniau busnes / gweithredu presennol y sefydliad a sicrhau fod gweithredoedd a flaenoriaethir yn cael eu cyflawni’n effeithiol

“Offeryn trylwyr i ysgogi arweinwyr ac i sbarduno trafodaeth onest a phroses o bennu blaenoriaethau.”
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

“Rhoddodd y gweithdy hwn gyfle inni asesu ein tîm uwch-reolwyr yn ôl nodweddion perfformiad uchel allweddol, er mwyn llywio’r hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r meysydd y mae angen inni eu gwella at y dyfodol”
Cyfoeth Naturiol Cymru

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiae

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Datblygu cydweithio a phartneriaeth

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Cynulleidfa darged

Byrddau neu timau uwch yng nghwasanaethau cyhoeddus neu sefydliadau sector trydydd/gwirfoddol yng Nghymru.

Cost

Does dim tâl am y gweithdy hwn.

Sut i wneud cais

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Llywodraethiant ac Arweinyddiaeth Byrddau.